Cyngor
Dros y Ffôn
Mae'r
meddygon ar gael fel arfer rhwng 11.30yb a 12 hanner dydd i gymryd galwadau ffôn.
Ar adegau eraill, mae'n bosibl eu bod nhw'n gweld cleifion ac mae torri ar draws
yn gallu bod yn boendod ac efallai yn ofidis i'r claf sydd gyda'r meddyg ar y
pryd. Oherwydd hynny, gofynnwyd i'r staff beidio â tharfu ar y meddyg oni
bai ei fod yn alwad frys. Os na fydd yn meddyg ar gael pan fyddwch yn galw bydd
manylion eich gofyniad yn cael ei gymryd a bydd y meddyg yn eich galw yn ôl.
Apwyntiadau
Er mwyn gweld meddyg, mae'n rhaid i chi wneud apwyntiad naill ai'n bersonol neu
dros y ffôn. Er eich bod wedi cofrestru gyda'r meddygfa, mae croeso i chi
weld unrhyw feddyg yn y practis. Fodd bynnag, mae'n amlwg yn fantais cadw at yr
un meddyg i drafod un afiechyd penodol er mwyn sicrhau gofal cyson. OS NAD YDYCH
YN GALLU CADW APWYNTIAD RHOWCH WYBOD I NI, DA CHI, ER MWYN I NI FEDRU EI ROI I
RYWYN ARALL.
Apwyntiadau
Brys
Gallwch gael apwyntiad
y diwrnod hwnnw os eglurwch wrth y derbynnydd bod taer am hynnu, ond efallai ni
fydd yn bosibl bob amser gyda meddyg arbennig.
Ymweliadau
â Chartrefi
Os ydych yn rhy dost i fynd i'r feddydfa, ffoniwch cyn 10.30 y bore ar y
diwrnod yr hoffech i'r meddyg ymweld â chi. Os bydd y cais yn hwyrach yn
y dydd, dylid fod am alwadau brys. Bydd eich cais yn cael ei basio i'r meddyg
sydd ar ddyletswydd. Os oes modd, dewch i'r feddygfa os gwelwch yn dda oherwydd
gall y meddyg weld o leiaf pedwar claf yn y feddygfa yn yr amser mae'n cymryd
i weld ag un gartref.
Canlyniadau
Profion
Ffoniwch ar ôl 11.00 y bore os gwelwch yn dda er mwyn rhoi amser i'r
meddyg cael golwg ar y canlyniadau a rhoi sylwadau arnynt. Oherwydd cyfrinachedd,
rhoddir gwybodaeth i'r claf dan sylw yn unig. Ni all y Derbynyddion drafod materion
meddygol ond byddant yn eich cyfeirio at feddyg neu nyrs os oes eisiau rhagor
o gyngor arnoch.
|